Ar ddechrau wythnos 4, dylech gyflwyno dogfen dwy-dudalen yn dangos y strategaeth yr ydych wedi'i defnyddio i ddod o hyd i lenyddiaeth wedi'i chymeradwyo ar eich pwnc. Gall hyn fod ar ffurf tabl neu graffeg, neu gyfuniad o'r ddau. Diben yr ymarfer hwn yw sicrhau bod eich ymchwil llenyddiaeth mor gynhwysfawr ag y mae angen iddo fod heb eich arwain ymhell o destun eich prosiect. Dylech ddefnyddio'r ddogfen hon i drafod eich ymdrech darllen llenyddiaeth gyda'ch goruchwyliwr. Myfyrwyr ph375 yn uunig sydd gyflwyno hwn fel gwaith i'w asesu, ond mae'n ymarfer gwerth chweil beth bynnag.
Byddai disgrifiad ar ffurf tabl o'ch chwiliadau ar y Web of Knowledge yn edrych rhywbeth fel hyn:
rhif | ymholiad | trawiadau | sylwadau |
---|---|---|---|
1 | "renewable energy" | 1733 | rhy eang - rhaid cyfyngu i un math |
2 | "renewable energy" AND wind | 322 | yn dal yn rhy eang - rhaid defnyddio geiriau allweddol sy'n debygol o'i gyfyngu |
3 | "renewable energy" AND "turbine*" | 105 | set dderbyniol |
4 | "renewable energy" AND solar | ... |
Ymadroddion (2 air) | Digwyddiadau |
---|---|
of the (wedi'u gwrthod: ddim yn amlwg) | 329 |
renewable energy (gair allweddol y chwiliad) | 167 |
⋮ | ⋮ |
wind farms | 44 |
wind speed | 29 |
life cycle | 27 |
capacity factor | 16 |
Nid oes angen rhestru unrhyw ymadroddion rydych eu gwrthod yn eich dogfen. |
Mae'n rhaid i chi hefyd ddadansoddi'r crynodebau (abstracts) i chwilio am eiriau allweddol cyffredin - gellid defnyddio'r rhain i fireinio ymhellach eich chwiliadau, yn ogystal ag i adnabod cysyniadau pwysig yn eich maes. Gallwch wneud hyn trwy ddefnyddio beiro uwcholeuo ar bapur neu drwy farcio geiriau allweddol drwy ddefnyddio meddalwedd prosesu testun. Mae yna hefyd offer dadansoddi testun ar-lein (fel hwn) neu ddarpariaethau sy'n cynhyrchu cynrychiolaeth graffigol o eiriau allweddol. Mae unrhyw un o'r dulliau hyn yn iawn, cyhyd â bod y canlyniadau yn cael eu dehongli yn ofalus: Y nod yw cynhyrchu rhestr o eiriau allweddol perthnasol sy'n ymwneud â'ch maes y tu hwnt i'r rhai rydych chi wedi'u defnyddio eisoes i ddiffinio'r chwiliad yn y lle cyntaf. Ddylech edrych am eiriau unigol yn ogystal ag ymadroddion byr o ddau neu dri gair dilynol. Mae'r tabl sydd wedi ei fewnosod yn dangos enghraifft o hyn, ond mae wedi ei gwtogi cryn dipyn. Beth bynnag a wnewch, bydd angen i chi ddarllen y rhan fwyaf o'ch crynodebau - rheswm cryf dros gymryd peth amser yn llunio strategaeth chwilio glyfar!
Ceisiwch grwpio eich crynodebau yn ddosbarthiadau sydd ag is-bwnc cyffredin. Gallech ddisgrifio'r dadansoddiad hwn ar ffurf diagram Venn gyda swigod croestorri o faint gwahanol, yn dibynnu ar pa mor gyffredin yw rhyw agwedd benodol. Nid oes yn rhaid i hwn fod yn ddeniadol, ond mae'n rhaid iddo ddangos y cysylltiadau perthnasol rhwng y crynodebau rydych chi wedi dod o hyd iddynt. Yn seiliedig ar hyn, dylech ddewis nifer o bapurau o bob un o'r swigod, gan anelu at gael trosolwg eang o bob agwedd ar y pwnc gan fynd yn fanylach yn y meysydd pwysicaf sydd agosaf at bwnc eich prosiect eich hun. Ar ôl trafod gyda'ch goruchwyliwr a dewis detholiad o efallai 15-20 o bapurau, gallwch wedyn fynd ymlaen i gael gafael ar y papurau eu hunain a dechrau eu darllen ar gyfer eich adolygiad llenyddiaeth. Efallai y bydd yn rhaid i chi ddod yn ôl i chwilio os yw cynnwys y papurau hyn yn awgrymu agwedd newydd nad oeddech wedi'i hystyried cyn hynny.
Yn olaf, darparwch restr o gyfeiriadau y papurau o ble y daw y crynodebau rydych chi wedi'u dewis (gweler cyfeirio am arweiniad ar sut i lunio'r rhestr yn addas) a nodwch leoliad y crynodebau hyn yn eich diagram Venn drwy farcio'r diagram gyda chyfeiriadau at y papurau.
30% | Dewis synhwyrol o eiriau allweddol cychwynnol |
30% | Tystiolaeth o fireinio geiriau allweddol yn rhyngweithiol yn dilyn y chwiliad cychwynnol |
40% | Ystyried y crynodebau; dosbarthiad a dewis synhwyrol ar gyfer astudiaeth fanwl |
I grynhoi, dylai eich dogfen ymchwil i'r llenyddiaeth gynnwys pedwar adran:
Mae hyn i gyd wedi'i seilio'n llwyr ar y crynodebau rydych chi wedi'u darganfod. Bydd angen i chi ddarllen y papurau llawn sy'n cyfateb i'r crynodebau o'ch dewis ar gyfer y cam nesaf, yr adolygiad llenyddiaeth.
Newidwyd y cynnwys: ruw/190917